October News
(Translation coming soon...)
Dosbarth Enfys a Gwawr
Yn ystod mis Hydref, mae'r dosbarthiadau (Meithrin - Flwyddyn 2) wedi bod yn gwneud gweithgareddau amrywiol am y stori 'Be na Bw' ble mae'r hen wraig yn teimlo yn unig. Mae'r gŵr doeth yn eu cynghori i gael anifeiliaid, ond mae helynt mawr wedyn! Bu'r plant yn craffu ar ddarlun enwog Vincent van Gogh o'i ystafell wely - ystafell fach debyg i dŷ’r hen wraig. Buont hefyd yn actio’r stori a chreu animeiddiad gyda'u pypedau bach eu hunain. Roedd canolbwyntio a dyfalbarhau yn 2 sgil pwysig iawn wrth i’r plant bwytho anifeiliaid - mae'r plant wedi bod wrth eu boddau gyda'r tasgau pwytho. Cawsant hefyd gyfle i fesur cyfaint gwahanol debotiau yr hen wraig - yn ffodus, doedd yr anifeiliaid heb dorri’r tebotiau! 'Rydym yn awr yn edrych ymlaen at ddathlu Diolchgarwch yn Eglwys Sant Tygai gyda nifer yn cymryd rhan mewn gwasanaeth am y tro cyntaf. Hanner tymor cyntaf prysur iawn yn Nosbarthiadau’r Dysgu Sylfaen felly!

Cyswllt â Jamaica
Fel rhan o’r cynllun ‘Building bridges of friendship’, cawsom ymweliad gan gyfarwyddwr Addysg Ardal Clarendon, Jamaica ac aelodau o Gymdeithas Jamaica Gogledd Cymru. Daethant draw i’r ysgol i gyfarfod a ’r disgyblion ac yna aethant i ymweld a Chastell Penrhyn yng nghwmni Blwyddyn 6. Cafodd pob disgybl o Flwyddyn 6 eu canmol am eu hymddygiad a brwdfrydedd wrth dywys y cyfarwyddwr a’r aelodau o amgylch y Castell.
Stop cyn creu bloc!!!
Cawsom wasanaeth diddorol a hwyliog yng nghwmni Catrin o ddŵr Cymru yn ddiweddar. Cafwyd hwyl yn gwisgo fyny fel cymeriadau amrywiol yn y gwasanaeth er mwyn cyfleu’r neges bwysig o beidio â chreu ‘bloc’ mewn toiled! Yna, cafodd pob dosbarth gweithdy cyd-weithio drwy ddatblygu sgiliau codio. Diolch Catrin, rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu chi yn ôl ar y Nadolig.

Gwasanaeth Diolchgarwch yn Eglwys St.Tygai
Cawsom fore hyfryd yn Eglwys St Tygai ymhlith ffrindiau, rhieni a theuluoedd plant yr ysgol yn ystod ein Gwasanaeth Diolchgarwch. Cafwyd perfformiadau arbennig gan bob dosbarth wrth iddynt ddiolch am amrywiol bethau ac yna canu gwerth chweil! Da iawn chi blantos. Diolch arbennig i’r rhai a fu’n brysur yn addurno’r Eglwys er mwyn creu awyrgylch Hydrefol a chroesawgar i ni, roedd ein prif cogydd anti Carol yn un o’r rheini. Casglwyd rhoddion tuag at fanciau bwyd Gadeirlan Bangor a Banc Bwyd Partneriaeth Ogwen. Hoffwn hefyd ddiolch am y rhoddion casgliad a dderbyniwyd. Bydd yr arian yn mynd tuag at y gronfa i’r gwaith atgyweirio yn yr Eglwys.
Llongyfarchiadau
Llongyfarchiadau mawr i’r disgyblion am fynd ati i greu eu maniffestos a chael eu hethol ar y Cyngor Ysgol! Rydym yn edrych ymlaen at gyd-weithio a gweld eich syniadau’n cael ei wireddu. Amdani!
Cyngerdd yn y Gadeirlan – Achub y Plant
Bu disgyblion o’r ysgol yn ffodus iawn o gael y profiad i ganu yng nghyngerdd fawreddog yn y Gadeirlan ym Mangor yn ddiweddar er mwyn helpu codi arian i elusen Achub y Plant. Bu’r disgyblion ymysg enwogion ar y noson gan gynnwys y tenor, Gwyn Hughes Jones a chafwyd cyfle i berfformio ar y cyd gydag ef a chôr Law yn llaw.
Mwynhaodd y disgyblion y profiad yn arw ac roeddem oll yma yn yr ysgol yn falch iawn ohonynt!
