Neges gan y Pennaeth
Croeso cynnes i chi i wefan Ysgol Llandygai! Ymfalchïwn yn y ffaith mai Ysgol sydd yn gweithredu fel ysgol Eglwysig yw hon. Mae awyrgylch ysgogol a chyffrous yn bodoli yma gyda ffocws penodol i sicrhau ansawdd rhagorol o addysgu a dysgu. Gweledigaeth yr ysgol yw anelu at ragoriaeth.
Rydym yn hynod ffodus o gael tîm o athrawon dynamig a blaengar yn gweithio yn yr ysgol sydd yn gweithio’n galed i sicrhau fod safonau uchel yn cael eu cyflawni gan ddefnyddio strategaethau arweiniol. Mae cydweithio amlwg yn digwydd o fewn yr ysgol rhwng yr athrawon, y Corff Llywodraethol, y rhieni heb anghofio wrth gwrs am y disgyblion. Mae’r cyngor ysgol a’n Prif Ddisgyblion yn barod iawn i fynegi barn a hunan werthuso yn gyson er mwyn cael effaith cadarnhaol ar fywyd yr ysgol.
Mae Ysgol Llandygai yn ysgol hapus a chroesawgar lle ysgogir pob plentyn i fod yn ddinasyddion dwyieithog hyderus. Rydym wedi cael sylw Cenedlaethol gan y wasg am ein gweledigaeth a’n ymroddiad i gynnal y Gymraeg yn gymdeithasol.
Bwriad y wefan yma yw eich galluogi i ddod i wybod mwy am yr ysgol arbennig hon. Bydd yn agoriad llygaid i chi am y cyfleoedd anhygoel sydd yn ymaros i’ch plentyn er mwyn eu paratoi i fod yn ddinasyddion gyda’r sgiliau a’r wybodaeth allweddol maent eu hangen ar gyfer y byd mawr.
Gweithredir yr ysgol ar sail tair amcan benodol sef: ‘Parchu pawb a phopeth, anelu at y sêr a bod yn ddiogel. Yn ogystal, hyrwyddwn werthoedd penodol yn fisol sydd yn darparu’r disgyblion i gydweithio ag eraill o fewn yr ysgol a’r gymuned.
Ysgol sydd yn hunan werthuso yn gyson gan weithredu syniadau sy’n torri tir newydd yw Llandygai. Ein bwriad yw buddsoddi yn ein disgyblion er mwyn anelu at y sêr o ran cyflawniadau ac i warchod ac ysgogi mewn awyrgylch ffyniannus.
Croesawn chi i ymweld â’r ysgol. Edrychwn ymlaen yn eiddgar at fagu partneriaeth llwyddiannus gyda chi.
Cofion cynhesaf,
Pennaeth