Newyddion Medi 2024
Cartref > Newyddion > Newyddion Medi 2024
Croeso
Croeso no l i bob un o’n teuluoedd ar ddechrau blwyddyn academaidd arall. Mae gennyn ni lawer o wynebau newydd ac mae pawb wedi setlo’n dda yn eu dosbarthiadau newydd.
Croeso mawr i’r rhai newydd sydd wedi cychwyn gyda ni yn y Meithrin. Mae pob un wedi setlo’n wych erbyn hyn. Hoffwn estyn croeso arbennig iawn hefyd i rieni’r plant sydd yn newydd i deulu’r ysgol.
Croeso arbennig i Ms Delyth Roberts, ein pennaeth newydd, atom i’r ysgol. Rydym yn gobeithio y bydd Ms Roberts yn hapus iawn yn ein plith.
Dosbarth Enfys
'Rydym wedi croesawu nifer o deuluoedd newydd atom ni i Ysgol Llandygai ym mis Medi. Mae pawb bellach yn y Derbyn a'r Meithrin wedi setlo yn dda ac wedi mwynhau dod i adnabod ei gilydd fel rhan o deulu Ysgol Llandygai. Maent wedi bod yn brysur yn creu lluniau ohonynt eu hunain a chymharu lliwiau eu llygaid a maint eu traed. Maent bellach yn mwynhau gweithgareddau yn seiliedig ar stori 'Be na Bw'.
Dosbarth Gwawr
Mae disgyblion Blwyddyn 1 a 2 wedi mwynhau dod yn o l at ei gilydd ar o l gwyliau'r Haf gan symud i ddosbarth newydd. I ddathlu Diwrnod Owain Glyndw r, buont yn brysur yn creu tariannau a chreu murlun lliwgar o’i faner yn arddull Andy Warhol cyn gorymdeithio y tu allan fel byddin Owain Glyndw r. Mae'r dosbarth bellach wedi ei rannu yn ddau grwp gyda grwp Onnen yn cychwyn ar sesiynau Ysgol Goedwig. Maent yn mwynhau treulio amser y tu allan gan fwynhau sylwi ar fyd natur a chydweithio’n ofalus gydag offer a deunyddiau naturiol.
Dosbarth Tirion
Daeth myfyrwyr o Siapan draw i’r ysgol am brynhawn yn fuan ym mis Medi i rannu hanes am eu diwylliant ac i rannu eu sgiliau calligraphy ac origami. Cafodd y disgyblion boddhad mawr yn eu cwmni ac wedi dysgu llawer!
Mae’r dosbarth hefyd yn ffodus iawn i fod yn derbyn sesiynau rygbi yn wythnosol gan Matt Baston o Ysgol Tryfan am yr hanner tymor yma. Diolch iddo am ei amser yn hyfforddi’r disgyblion.
Ymddeoliad
Ar o l 34 mlynedd anhygoel o wasanaeth ymroddedig, hoffwn fynegi ein diolch dwysaf i Mrs Manon Griffiths am ei hymrwymiad i addysg. Mae ei hangerdd dros feithrin meddyliau ifanc a llunio'r dyfodol wedi gadael marc bythgofiadwy arnom ni i gyd yma yn yr ysgol. Diolch am y blynyddoedd o waith caled, arweiniad ac ysbrydoliaeth. Mae’r blynyddoedd o gyd-weithio hapus, positifrwydd a charedigrwydd wedi cael effaith barhaol ar bob un ohonom, ac rydym yn hynod ddiolchgar am y doethineb a'r chwerthin a daethoch i'n gweithle bob dydd. Rydym yn dymuno pob hapusrwydd sydd gan ymddeoliad i'w gynnig.
Cyn yr Haf, cawsom brynhawn arbennig yn dathlu gyda chyn-athrawon a ffrindiau’r ysgol. Dymunwn bob llwyddiant a hapusrwydd i chi. Diolch unwaith eto am bopeth.

Dathlu Diwrnod Owain Glyndŵr
Cafodd pob dosbarth diwrnod gwych yn dathlu diwrnod Owain Glyndw r ‘leni. Diolch i chi blantos am eich ymdrechion. Buont yn brysur iawn yn gwneud gweithgareddau amrywiol drwy gydol y dydd. Dyma lun o ddisgyblion blwyddyn 5 a 6 dosbarth Tirion.
Ysgol Goedwig
Mae’r sesiynau Ysgol Goedwig ar dir yr ysgol wedi cychwyn acw a'r tymor yma, tro grŵp Onnen o ddosbarthiadau Enfys a Gwawr oedd hi i fwynhau sesiynau’r Ysgol Goedwig. Cawsant cyfle i ddefnyddio llif i dorri coed er mwyn creu cadwyni unigryw. #awyr agored #sgiliau newydd #dyfalbarhau
